Ynys Môn Anhygoel

Cartref > Ynys Môn Anhygoel

Diwylliant i swyno a llu o leoliadau i ymweld, panoramâu i’w gweld, arogleuon i’w sawru, rhywogaethau i arsylwi ac anturiaethau i ddewri!

Os ydych am dorheulo ar draethau tywodlyd gyda hufen iâ, ymgolli yn niwylliant, cefn gwlad, hanes a threftadaeth Cymru, neu gaiac mewn dyfroedd clir grisial, plymiwch oddi tanynt i archwilio’r llu o longddrylliadau neu hongian o’r clogwyni uwchben tonnau sy’n chwalu, gallwch wneud popeth a mwy yng Nghaergybi ac Ynys Môn.

Mae gan Gaergybi henebion hanesyddol, gwarchodfeydd natur, Gaer Rufeinig, eglwys ganoloesol, Morglawdd Caergybi, goleudai, parc arfordirol, cildraethau cudd gyda dyfroedd crisialog, bywyd gwyllt bendigedig, Amgueddfa Forwrol Caergybi, y Canolfan Gelfyddydau Ucheldre, a digonedd o anturiaethau chwaraeon a theithiau cerdded.

Mae Ynys Môn yn lawn dop o hanes, gyda hen eglwysi, henebion Neolithig, y Deyrnas Gopr, plastai, castell, melinau gwynt, ac amrywiaeth o atyniadau twristiaeth a chwaraeon. Mae yna fannau gwych i wylio bywyd gwyllt ar draws yr ynys a nifer o warchodfeydd natur a safleoedd gyda dynodiadau arbennig sy’n gartref i rywogaethau prin a rhyfeddol, gan gynnwys brain coesgoch, y chwilen goch, a Rhosyn y Graig Môn.

Gwesty’r Boathouse yw’r lle perffaith i ddechrau archwilio Ynys Môn anhygoel!